NOTICE OF APPOINTMENT OF ELECTOR’S RIGHTS

NOTICE OF APPOINTMENT OF THE DATE FOR THE EXERCISE OF ELECTORS’ RIGHTS

BARRY TOWN COUNCIL

FINANCIAL YEAR ENDING 31 MARCH 2021

1. Date of announcement 6 August 2021

2. Each year the annual accounts are audited by the Auditor General for Wales. Prior to this date, any interested person has the opportunity to inspect and make copies of the accounts and all books, deeds, contracts, bills, vouchers and receipts etc. relating to them for 20 working days on reasonable notice. For the year ended 31 March 2021, these documents will be available on reasonable notice on application to:

Mrs Emily Forbes, Chief Officer (Town Clerk), Barry Town Council, Town Hall, King Square, Barry, CF63 4RW
between the hours of 9.00am and 4.00pm on Monday to Friday
commencing on 20 August 2021
and ending on 17 September 2021

3. From 20 September 2021, until the audit has been completed, Local Government Electors and their representatives also have:
• the right to question the Auditor General about the accounts.
• the right to attend before the Auditor General and make objections to the accounts or any item in them. Written notice of an objection must first be given to the Auditor General. A copy of the written notice must also be given to the council.
The Auditor General can be contacted via: Community Council Audits, Audit Wales, 24 Cathedral Road Cardiff CF11 9LJ.

4. The audit is being conducted under the provisions of the Public Audit (Wales) Act 2004, the Accounts and Audit (Wales) Regulations 2014 and the Auditor General for Wales’ Code of Audit Practice.

 

HYSBYSIAD PENNU’R DYDDIAD AR GYFER ARFER HAWLIAU ETHOLWYR

CYNGOR TREF Y BARRI

BLWYDDYN ARIANNOL YN DOD I BEN AR 31 MAWRTH 2021

5. Dyddiad cyhoeddi 6 Awst 2021

6. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
Mrs Emily Forbes, Prif Swyddog (Clerc Y Dref), Cyngor Tref y Barri, Neuadd Y Dref, Sgwar Y Brenin, Y Barri, CF63 4RW
Rhwng yr oriau o 9.00am a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 20 Awst 2021
Ac yn dod i ben ar 17 Medi 2021

7. O 20 Medi 2021, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
• yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
• yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ.

8. Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.