We do not currently have any vacancies.

Mae Cyngor Tref Y Barri yn chwilio am Reolydd Tîm Ymgysylltu & Digwyddiadau i ymuno â’i Dîm Arweinyddiaeth Strategol.

Mae’r rôl hon yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi’r Cyngor i adeiladu cymunedau cryf, bywiog a chynaliadwy yn Y Barri, a bod yn gyfrifol am reolaeth uniongyrchol y Tîm Ymgysylltu & Digwyddiadau o dri.

Os oes gennych brofiad o ymgysylltu, cyfathrebu allanol, digwyddiadau, ymgyrchoedd marchnata a rheoli timau uchel eu perfformiad, rydym eisiau clywed gennych.

Mae’r rôl reoli hon yn cynorthwyo’r Cyngor Tref i gyflawni ei nodau strategol a’i Nodau Llesiant er mwyn siapio ein tref ac mae’n cael effaith enfawr ar sicrhau ein bod yn cyflawni ein cynllun corfforaethol ar gyfer pobl Y Barri.

Byddwch yn rhywun all gynllunio, datblygu, cydlynu, gweithredu a gwerthuso nifer o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau ymgysylltu gwahanol a benderfynir gan y Cyngor.

Byddwch yn cefnogi Pwyllgorau perthnasol y Cyngor, paratoi adroddiadau a phapurau a chyflawni gweithredoedd.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am natur y rôl mae croeso ichi gysylltu â jasonharvey@barrytowncouncil.gov.uk

Er mwyn trefnu sgwrs gyda’r Prif Swyddog sef y rheolydd llinell uniongyrchol ar gyfer y rôl hon, cysylltwch â kathryn.thomas@barrytowncouncil.gov.uk

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau 30 Awst 2024

Cynhelir cyfweliadau yn yr wythnos yn cychwyn ar 9 Medi 2024